Saturday 11 July 2009

Sarnu enw da Eisteddfod yr Urdd

Mae penderfyniad yr Urdd i gael trwydded i werthu alcohol ar faes Eisteddfod yr Urdd wedi cael ei feirniadu’n hallt gan Gyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau Eraill. Dywedodd Wynford Ellis Owen, Prif Weithredwr yr Elusen, ei bod yn “warth” bod yr Urdd yn ystyried gwerthu alcohol ar y maes. “Rydw i’n arswydo at glywed y newyddion,” meddai. “Ar adeg pan fod 12 miliwn o bobl Prydain yn goryfed – a’r broblem yn waeth yng Nghymru, gyda phobl ifanc Cymru rhwng 11 a 15 mlwydd oed yn defnyddio mwy o alcohol na phobl ifanc o’r un oedran mewn unrhyw wlad arall yn Ewrop – mae’r penderfyniad nid yn unig yn un ynfyd ond yn un anghyfrifol.”

Ychwanegodd bod Cyngor yr Urdd, bleidleisiodd bron yn unfrydol o blaid y newid, yn “sarnu enw da’r Eisteddfod ac yn anfon neges glir i holl blant a phobl ifanc Cymru, sef: na fedrwn ni bellach gynnal hyd yn oed Eisteddfod yr Urdd heb fod alcohol yn rhan ohoni”.

“Dyma ganlyniad i’r ‘normaleiddio’ sydd wedi digwydd yn ein cymdeithas parthed ein hymwneud ag alcohol”, meddai. “Mae bellach yn ‘abnormal’ i beidio cael alcohol yn rhan o bob gweithgarwch. Mae’n drist meddwl fod aelodau Cyngor yr Urdd – nifer ohonynt yn ddiaconiaid a blaenoriaid - wedi ildio i’r fath bwysau”.

Ychwanegodd Wynford, “Rwy’n gobeithio y bydd rhieni, ac arweinwyr ac aelodau cyfrifol o’n cymdeithas ac o’n heglwysi yn galw ar Gyngor yr Eisteddfod i newid eu meddyliau ynglŷn â’r penderfyniad anhygoel hwn i ganiatáu gwerthu alcohol ar faes Eisteddfod yr Urdd.”

Mae Wynford Ellis Owen wedi gwneud cais drwy Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr yr Urdd, i gael mynychu cyfarfod nesaf Cyngor yr Urdd. “Fy ngobaith” meddai “yw y bydd yr aelodau yn ddigon doeth a gwrol o glywed y ffeithiau a’r dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf, i newid eu meddyliau. Rwy’n ffyddiog” meddai “y gallwn gyflawni hyn er adfer hygrededd yr Urdd”.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â:

Cyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau Eraill
58 Richmond Road,
Caerdydd CF24 3AT
T. 029 2049 3895
E. info@welshcouncil.org.uk/ gwybodaeth@cyngorcymru.org.uk
www.welshcouncil.org.uk

No comments:

Post a Comment