Friday 31 July 2009

Y wefan newydd yn "fyw"/The Welsh version of our website is now "live"

Yn union cyn dechrau'r Eisteddfod Genedlaethol yn y Bala yfory (dydd Sadwrn 1af o Awst) - ac yn ol ein haddewid - mae gwefan Cyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau Eraill yn "fyw". Diolchwn i Shaun Pinney am ei holl waith caled yn cynllunio a pharatoi'r wefan. Gobeithio y bydd o ddefnydd i bawb sydd yn chwilio am wybodaeth; ac i'r rhai hynny sy'n dioddef o ganlyniad i gamddefnyddio alcohol a chyffuriau eraill - gan gynnwys aelodau o'r teulu a ffrindiau.

Mae'r wefan yn tyfu'n ddyddiol wrth inni ychwanegu at y wybodaeth sydd arni. Gellwch hefyd ddilyn ein blog dyddiol - 'Sut 'rwy'n gwella o ddibyniaeth' -; er y byddaf yn yr Eisteddfod am wythnos, ac ar wyliau am wythnos arall wedi hynny. Yn y cyfamser, bydd cyfaill imi, Rosie, yn cadw'r Blog i fynd.

Ewch i www.cyngorcymru.org.uk


Immediately prior to the beginning of the National Eisteddfod tomorrow (Saturday, 1st August) - and, as we promised - the Welsh Council on Alcohol and Other Drugs' new website is "live". We thank Shaun Pinney for all his hard work designing and preparing the website. We hope it will be useful to those seeking information; and to those suffering as a consequence of alcohol and other drugs' misuse - including members of their families and friends.

The site grows daily as we add to the information contained on it. You can also follow our daily Blog -'How I'm recovering from addiction' -; although I'll be attending the Eisteddfod this coming week, and on holiday the following week. In the meantime, my friend, Rosie, will keep the Blog going.

Go to www.welshcouncil.org.uk

No comments:

Post a Comment