Friday 23 October 2009

Rhoi'r neges ar-lein a gosod sylfeini Y Stafell Fyw

Cynhelir y digwyddiad codi arian cyntaf er budd prosiect diweddaraf Cyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd am 7 o’r gloch ar nos Sul 25 Hydref. Bydd yr arian a godir o sioe gerdd Cwmni Theatr Ieuenctid Maldwyn yn mynd at sefydlu Ystafell Fyw Caerdydd, canolfan driniaeth fydd yn cynnig gofal dydd dwyieithog am ddim wrth dorri cylchred dibyniaeth. Mewn amser, fe fydd y gwasanaeth yn cael ei ymestyn i bob prif dref ar draws Cymru.

Fe fydd y noson yn nodi dwy garreg filltir arall i Gyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau Eraill. Nid yn unig mae nhw’n lansio ei gwefan newydd, www.cyngorcymru.org.uk, ond fe fyddan nhw hefyd yn cyhoeddi enillwyr eu gystadleuaeth cartŵn.

Wedi ei rannu i mewn i dri grŵp o oedrannau gwahanol: o dan 11 oed, 11-18 oed a 18+, roedd y gystadleuaeth yn gyfle i blant a phobl ifanc rhoi diweddglo a sylwadau eu hunain i mewn i’r cartwnau. O syniadau gwreiddiol gan bobl ifanc yng Ngwaelod-y-garth a Efail Isaf, y cartwnydd Cen Williams gynlluniodd pedwar math gwahanol o gartwnau, yn dangos nifer o scenarios gwag ‘beth ddigwyddodd nesaf’, yn cynnwys effeithiau gormod o alcohol a chyffuriau eraill. Fe fydd cyfle i weld y cartwnau ar wefan y Cyngor www.cyngorcymru.org.uk/cystadleuaeth.html

Dywedodd Wynford Ellis Owen, Prif Weithredwr Cyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau Eraill, Drugs said, “Rwyf yn hynod ddyledus i Gwmni Theatr Ieuenctid Maldwyn am gefnogi lawns ein prosiect codi arian newydd. Mae perfformiad y noson yn addo i fod yn ddigwyddiad gwych - noson i’w gofio i unrhyw un sy’n mwynhau talent gerddorol yng Nghymru.

“Mae prosiect Y Stafell Fyw Caerdydd yn fenter gyffrous i ni. Ein bwriad yw helpu pobl sydd â phroblemau yn ymwneud ag alcohol, cyffuriau (boed e yn gyfreithlon neu'n yn anghyfreithlon), mewn ffordd effeithlon, gyda chanlyniadau positif hir dymor.”

No comments:

Post a Comment