Friday 5 February 2010

"Beth ar y ddaear maent yn ei wneud?"

“Beth ar y ddaear maent yn ei wneud?”
Cyn-farnwr yn cefnogi e-ddeiseb yn erbyn gwerthu alcohol ar faes yr Urdd

Mae’r cyn-farnwr, Dewi Watkin Powell wedi datgan gofid mawr am benderfyniad yr Urdd i ddarparu alcohol i’w yfed ar y Maes am y tro cyntaf eleni. Mae’r penderfyniad “annoeth ac eithriadol beryglus” yn gwbl groes i’w hegwyddorion sylfaenol. Mae’n ymbil arnynt i roi stop ar y cynllun nawr drwy beidio cymryd mantais o’r drwydded i werthu alcohol gan nad yw’n rhy hwyr i ailystyried y mater.

Yn dilyn penderfyniad Urdd Gobaith Cymru i ganiatáu gwerthu alcohol ar faes yr Eisteddfod am y tro cyntaf yn Llanerchaeron, Ceredigion ym mis Mai 2010, mae e-ddeiseb wedi ei lansio yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ddarparu cyllid i Eisteddfod yr Urdd yn y dyfodol ar yr amod na werthir alcohol ar faes yr Ŵyl.

Wrth gefnogi’r e-ddeiseb dywedodd Dewi Watkin Powell, “Mae’r penderfyniad hwn yn gwbl groes i egwyddorion sylfaenol yr Urdd sef i wasanaethu Cymru, Cyd-ddyn a Christ. Nid yw’r penderfyniad i werthu alcohol ar faes yr Urdd yn ateb yr un o’r rhain.

“Y mae yn amlwg, mwya i gyd y ffynonellau, mwya i gyd yr yfed a mwya i gyd y troseddu. Yr oedd tua 90% o’r achosion o ymosod ar bobl yn y cartref neu ar y ffordd a ddaeth gerbron y llys chwarter canrif yn ôl , wedi digwydd o ganlyniad i effaith y ddiod feddwol. Ac yn ôl pob tystiolaeth mae’r sefyllfa yn waeth fyth heddiw. Does dim amheuaeth bod y rhan fwyaf o droseddau yn y cartref gyda’r nos yn deillio o yfed, ac felly yn tanseilio nid yn unig y teulu, ond hefyd y gymdeithas sydd ohoni.

“Y neges y mae’r Urdd yn ei roi nawr i ieuenctid Cymru yw ei bod yn beth braf i yfed ac oherwydd hyn, yr hyn y maent yn ei wneud yw creu perygl diamau y bydd cynnydd pellach yn y nifer sydd yn gaeth i alcohol. Fe fydd plant yn gweld rhai hŷn yn yfed ac yn cael yr argraff ei fod yn dderbyniol i bobl ifanc ddilyn eu hesiampl hefyd.”

Dywedodd Wynford Ellis Owen, Prif Weithredwr Cyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau Eraill, “Mae cefnogaeth Dewi Watkin Powell yn hwb fawr, a gobeithiwn, gyda’r e-ddeiseb hon, berswadio Llywodraeth y Cynulliad i ailystyried ariannu’r digwyddiad hyd nes bydd yr Urdd yn gwrthdroi ei benderfyniad i werthu alcohol yn yr Eisteddfod.”

Ar anogaeth Cyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau Eraill, mae’r e-ddeiseb yn gyfle i unrhyw un sydd yn poeni am y penderfyniad i gofrestru eu pryderon gyda’r Cynulliad. Gellir arwyddo’r ddeiseb Dim Alcohol ar Faes Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ar: http://www.cynulliadcymru.org/gethome/e-petitions/eform-sign-petition.htm.

No comments:

Post a Comment