Thursday 15 April 2010

Nid rôl yr Urdd yw cynnal arbrawf er mwyn i rieni gael ymarfer dysgu eu plant sut i yfed yn gyfrifol.

Parthed erthygl Cris Dafis ‘Trafod alcohol yn gall a synhwyrol’ (Golwg Ebrill 8fed). Diolch am ei gyfraniad i’r drafodaeth. Rwy’n cytuno â phopeth mae’n ddweud ac yn cymeradwyo a chefnogi’r dystiolaeth mae’n dyfynnu ohoni - mae’r ymchwil yn ddibynadwy a safonol. Mae’n bwysig iawn fod rhieni yn gosod esiampl dda i blant a phobl ifanc ar sut mae yfed alcohol - y pumed lladdwr mwyaf yn y byd - yn gyfrifol.

Y drafferth yw bod Cris Dafis wedi cymysgu dau beth yn ei erthygl a thrwy wneud hynny, fel sawl un arall, mae wedi cymylu’r ddadl.

Nid sôn am yr esiampl y dylai rhieni ei gosod i blant a phobl ifanc ydw i - mae hynny’n rhywbeth sy’n digwydd beth bynnag, fel y dyfynna Cris, in the home environment. Sôn yr ydw i am yr esiampl (neu ddiffyg esiampl yn yr achos hwn) y mae’r Urdd fel sefydliad yn ei gosod.

Er mwyn deall fy ngwrthwynebiad i benderfyniad yr Urdd yn well, mae’n hanfodol gwahaniaethu rhwng y ddau beth. Does â wnelo beth mae rhieni yn ei wneud ddim oll, yn yr achos hwn, â beth mae’r sefydliad yn ei i wneud (neu beth ddylai’r sefydliad ei wneud).

Nid rôl yr Urdd yw cynnal arbrawf er mwyn i rieni gael ymarfer dysgu eu plant sut i yfed yn gyfrifol. Gallant wneud hynny ar y maes carafannau a.y.b. Mae’r awgrym y gallai’r Urdd wneud cymwynas â phlant Cymru trwy gynnal y fath arbrawf yn beryglus o naïf ac anghyfrifol. Trychinebus fu arbrawf cyffelyb yn Ffrainc - fel mae’r Ffrancwyr yn canfod nawr gyda 20 miliwn o Ffrancwyr yn dioddef problemau iechyd hirdymor o ganlyniad. Rôl yr Urdd, sy’n fudiad plant a phobl ifanc, yw trefnu a llwyfannu’r Eisteddfod er budd yr iaith Gymraeg a diwyllant y genedl, a gwneud hynny mewn awyrgylch sy’n rhoi iechyd, lles a diogelwch plant a phobl ifanc o flaen popeth arall.

Y sefydliadau sy’n elwa o’r “arbrawf” hwn, sut bynnag, yw’r bragwyr a’r gwerthwyr alcohol sydd wedi treiddio i’r Urdd. Fydd yr Urdd yn ddim bellach, iddynt hwy, ond ffordd arall o feithrin marchnad newydd. Does ganddynt hwy ddim diddordeb mewn helpu rhieni i ddysgu eu plant sut i yfed yn gyfrifol. Eu blaenoriaeth hwy yw hyrwyddo gwerthiant alcohol. A sut maent yn llwyddo i wneud hynny? Drwy gyflwyno alcohol mewn cyd-destun iachusol, hwyliog a theuluol braf neu, fel mae’r Urdd yn ei wneud, drwy gyflwyno “gwydriad bach o win mewn cyd-destun pryd o fwyd”. Nid yw normaleiddio alcohol fel hyn yn arwain at yfed cyfrifol ymhlith plant a phobl ifanc. Mae tystiolaeth yn awgrymu ei fod yn gwneud y gwrthwyneb.

Mae’n hysbys fod y bragwyr yn targedu chwaraeon a digwyddiadau diwylliannol o bob math er mwyn creu delwedd fwy derbyniol i’w gwenwyn. Hyd y flwyddyn hon yr Urdd oedd un o’r ychydig sefydliadau diwylliannol i beidio cael eu temtio i’r fagl. Mae hynny wedi digwydd bellach. Tristwch pethau yw nad yw’r Urdd na’i Gyngor yn ymwybodol eto o’r ffordd sinigaidd y meant wedi cael eu defnyddio.

Gyda llaw, gweithio i Gyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau Eraill ydw i ac nid i Alcohol Concern - er mod i’n cydweithio’n glos â hwy.
Pam gadael i ffaith sefyll yn ffordd stori dda ynte, Cris? Yn enwedig pan mae’n creu’r argraff ’mod i’n gweithredu’n groes i bolisi'r Elusen sy’n fy nghyflogi.

No comments:

Post a Comment