Monday 18 April 2011

GWEDDI AR GYFER Y PASG oddi wrth Cyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau Eraill

Dduw pob gobaith,
Molwn di am hanes y Pasg.
Rhannwn gyda’r disgyblion
a thyrfa’r ymdeithio buddugoliaethus i mewn i Jerwsalem -
gan floeddio ‘Haleliwia i Fab Dafydd’.
Yn eu cwmni hwy, helpa ni i glywed gobeithion pobl heddiw
yn arbennig y tlawd a’r methedig,
y di-waith a’r sawl sydd anobeithio ar bererindod bywyd.
Boed iddynt hwythau brofi gwefr gobaith y Pasg hwn.

Dduw pob barn a chyfiawnder
Cyfaddefwn i ninnau droi addoldai’n ffydd
I fod yn ogofau twyll ac yn llefydd i frolio ein hunain.
Edrych arnom yn dy drugaredd
wrth i ninnau gyfaddef ein gwendid a’n pechod.
Maddau i ni am fod mor dawedog
wrth i ni glywed cri'r anghenus a griddfan y difreintiedig.
Glanha staen y byd oddi arnom y Pasg hwn.

Dduw'r cariad dyfnaf,
Diolchwn i ti am ein caru ninnau yn dy ras.
Diolchwn dy fod yn parhau i olchi traed y blinedig
ac estyn ohonot dy hun fodd i wasanaethu heb gyfrif y gost.
Pa fodd y gallwn sylweddoli grym gwyleidd-dra a gogoniant gwasanaeth
yn Iesu Grist?
Meithrin ynom awydd i weithio dros eraill
heb roi unrhyw ystyriaeth i ni ein hunain.

Dduw'r aberth mwyaf un,
Diolchwn i ti am Iesu Grist, a’i ufudd-dod i ti,
hyd yn oed wrth wynebu artaith y croeshoelio.
Wrth iddo edrych ar draws Golgotha,
credwn iddo weld pob dioddefaint,
ac estyn i drigolion daear rym rhyfeddol ei ras.

Dduw'r atgyfodiad,
Rhyfeddwn dy fod yn ein gwahodd
i rannu'r bywyd newydd sydd yn dy fuddugoliaeth di dros bob angau.
Ti yw’r hwn sy’n rhyddhau'r caethion o rwymau’r byd,
Gweddïwn y byddi’n datgloi cadwynau pobl o’r newydd -
y sawl sy’n glwm i alcoholiaeth a chamddefnydd o gyffuriau;
y sawl sy’n gaeth i’w hunanoldeb ac i drais;
y sawl sy’n cael eu cam-drin a’u hamharchu
y sawl sy’n dyheu am fywyd a rhyddid.

Helpa ni i brofi grym y Pasg ym mhrofiadau Golgotha ein byd.
ac i glywed yr Haleliwia yn ein heneidiau’n wastadol. Amen.

Y Parch Denzil I. John

No comments:

Post a Comment