Monday 25 April 2011

Mae sêr y byd cerddoriaeth Gymraeg, Bryn Fôn, Elin Fflur, Brigyn (Ynyr ac Eurig Roberts), Côr Hŷn Glanaethwy a Chôr Eifionydd wedi dod at ei gilydd er mwyn recordio cân er lles Yr Ystafell Fyw Caerdydd, y ganolfan Gymraeg ar gyfer adfer o alcohol a chyffuriau. Mae’r gân, Can y 'Stafell Fyw/The Living Room Song, wedi ei hysgrifennu gan y cyfansoddwr ac aelod o’r Tebot Piws, Alun ‘Sbardun’ Huws, ac wedi ei chynhyrchu gan Bryn Fôn.

Bydd y gân, sydd wedi ei recordio yn Gymraeg ac yn Saesneg yn Stiwdio Sain ger Caernarfon, ar gael i’w lawr lwytho o iTunes a www.sainwales.com o hanner nos 1af Mai. Bydd fideo’r gân hefyd ar gael i’w wylio ar wefan Yr Ystafell Fyw Caerdydd www.thelivingroom-cardiff.com/cymraeg ac ar www.sainwales.com.

Bydd y ganolfan Adferiad cymunedol, sy’n seiliedig yn 58 Richmond Road, Caerdydd, yn darparu man diogel, sydd ddim yn barnu, ac yn cynnig amrywiad o raglenni seico-gymdeithasol i bobl o ardal Caerdydd sydd yn gwella o broblemau camddefnyddio sylweddau dwfn a hirdymor.

Nid yw aelodau yn cael eu trin fel “pobl anffodus â phroblemau cyffuriau ac/neu alcohol hir-dymor” ond yn hytrach fel bodau dynol gweithredol â breuddwydion, gallu creadigol ac yn meddu ar fywyd i’w fyw. Bydd y ganolfan newydd yn cael ei hagor yn swyddogol ar yr 8fed o Fedi ac yn help i 'agor y drws i fywyd newydd' yn rhydd o ddibyniaeth. Mewn amser, bydd y gwasanaeth yn cael ei ymestyn i holl drefi mawr ledled Cymru.

Dywedodd Wynford Ellis Owen, Prif Weithredwr, Cyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau Eraill, “Rwy’n ddiolchgar dros ben i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y prosiect yma. Heb eu hymroddiad a’u brwdfrydedd, ni fyddwn ni wedi cyrraedd lle rydym ni heddiw. Mae cael rhestr mor drawiadol o sêr â’r un sydd gennym ni ar gyfer y record yma yn wych, ac rwy’n siŵr y bydd pobl wrth eu boddau pan fyddent yn clywed y gân ac y bydd hi’n rhoi’r siartiau ar dân!

“Bydd cysyniad y 'Stafell Fyw yn trawsnewid y driniaeth sydd ar gael i bobl sy’n ddibynnol ar alcohol a chyffuriau yng Nghymru. Bydd y pwyslais ar adferiad, yn hytrach na rheoli’r ddibyniaeth yn unig. Mae syniad y 'Stafell Fyw yn deillio o’r ffaith fod dim cymuned adferiad yng Nghymru. O ganlyniad, mae Yr Ystafell Fyw wedi ei sefydlu fel ffordd o roi ‘gwyneb a llais’ i adferiad a rhoi gobaith i’r rheiny sydd dal yn brwydro yn erbyn dibyniaeth. O fy amser yn America, fel rhan o Gymrodoriaeth Winston Churchill, dysgais ei bod hi’n hanfodol sefydlu cymuned adfer gref yn gyntaf, gan mai dyma’r llwybr gorau at lwyddiant i bawb sy’n delio ag adferiad.”

Ychwanegodd Alun ‘Sbardun’ Huws, “Mae 'Stafell Fyw Caerdydd yn achos gwych. Rydw i’n bersonol wedi cael profiad o frwydro yn erbyn dibyniaeth ar alcohol ac wedi bod yn gwella ers pum mlynedd ar hugain ac rwy’n gwybod pa mor anodd y gallai dod o hyd i gyngor a chefnogaeth fod. Rwy’n falch o allu helpu mewn rhyw ffordd."

Dywedodd Bryn Fôn, “Yn gyntaf oll mae hi’n gân wych ac roeddwn i’n fwy na bodlon cynnig fy nghefnogaeth. Mae cael lleisiau a thalentau ffantastig perfformwyr fel Elin Fflur, Brigyn, Côr Hŷn Glanaethwy a Chôr Eifionydd yn gwneud y recordiad hyd yn oed mwy arbennig ac rwy’n gobeithio y bydd yn codi llawer ar ymwybyddiaeth y 'Stafell Fyw Caerdydd.”

Meddai Dafydd Roberts, Prif Weithredwr Sain, “Roedd hi’n bleser cael croesawu cymaint o artistiaid talentog i recordio’r gân yma yn ein stiwdio, er budd yr achos teilwng hwn. Gobeithiwn yn fawr y bydd ymdrechion pawb yn sicrhau fod y gân yn codi ymwybyddiaeth o’r adnodd gwerthfawr hwn yng Nghaerdydd.”

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Rhodri Ellis Owen, Cambrensis Communications ar 029 2025 7075 neu rhodri@cambrensis.uk.com neu ewch i www.welshcouncil.org.uk.

No comments:

Post a Comment