Friday 9 December 2011

Y ffin denau rhwng llawenydd a thristwch yn thema ganolig yng Ngweddi'r Nadolig

Wrth i bwysau gynyddu ar economïau’r byd mae’n hawdd iawn anghofio effaith byd-eang y polisïau macro ar fywydau pob dyn a dynes ar y stryd. Mae Gweddi Nadolig flynyddol Cyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau Eraill yn tynnu sylw at yr angen i weddïo dros y rheini sy’n ei chael hi’n anodd dod a dau ben llinyn ynghyd mewn amser o ansicrwydd cymdeithasol ac ariannol, ac sy’n cael eu temtio i droi at gyffuriau neu alcohol am gysur.

Mae’r weddi, sydd wedi ei ysgrifennu gan y Parchedig Denzil John, hefyd yn crybwyll y ganolfan loches newydd, Stafell Fyw Caerdydd a’i rôl bwysig fel hafan gynnes a chroesawgar o’r byd tu allan o’r rhai sy’n camu trwy’r drysau.

Yn ôl Arolwg Iechyd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn 2010, fe gyfaddefodd oddeutu 2 ym mhob 5 o oedolion eu bod wedi yfed mwy na’r cymeriant dyddiol a argymhellir o leiaf un diwrnod yn yr wythnos flaenorol, gan gynnwys tua chwarter o oedolion yn dweud ei bod wedi yfed dros ddwywaith y cymeriant a argymhellir. Nid cyd-ddigwyddiad felly yw’r ffaith fod y nifer o farwolaethau’n ymwneud ag alcohol wedi dyblu yng Nghymru yn y bymtheg mlynedd ddiwethaf.

Roedd 494 o farwolaethau’n ymwneud ag alcohol yn 2010, gyda chynnydd o 14 y cant mewn dynion ac 16.4 y cant mewn merched ers 2006 yn unig. Mewn ymchwil newydd gan Brifysgol John Moores, Lerpwl canfuwyd fod yr anghysondeb rhwng arolygon yn cyfrifo cymeriant a gwerthiant gwirioneddol alcohol yn 430 miliwn uned yr wythnos. Mae hyn yn gyfystyr â photel o win i bob oedolyn sy’n yfed ym Mhrydain yn mynd heb ei chyfrif.

Dywed Wynford Ellis Owen, Prif Weithredwr Stafell Fyw Caerdydd-Living Room Cardiff, “Bydd Nadolig 2011 yn arbennig o anodd i nifer o unigolion a theuluoedd hyd a lled Cymru, ac mae’r weddi eleni yn adlewyrchu popeth sy’n wynebu cymdeithas fodern.

“Mae ansicrwydd yn ein bywydau yn ein gwneud ni’n agored i straen, a tydi anwybyddu’r peth ddim am helpu. Mae’n rhaid i ni wynebu ein hofnau yn hytrach na gobeithio dod o hyd i’r ateb yng ngwaelod potel o win neu becyn o smôcs. Pan fo amseroedd yn anodd, mae hyn yn arbennig o wir. Wedi dweud hyn, mae’r weddi yn un llawn gobaith, ac mae Stafell Fyw Caerdydd yn ymateb positif i faterion anodd a thwfn iawn yng nghalon cymdeithas.”

DIWEDD
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Rhodri Ellis Owen, Cambrensis Cyf ar 029 20 257075 neu rhodri@cambrensis.uk.com.

No comments:

Post a Comment