Sunday 29 January 2012

Gonestrwydd gyda'n hunain

Gwrando ar sgwrs am onestrwydd ar Bwrw Golwg ar BBC Radio Cymru bore ‘ma.

Mae gonestrwydd llwyr yn anghenraid cyn y gall unrhyw un ddod i berthynas â’r dwyfol. Rhaid i ddyn fod yn gwbl onest gyda’i hunan cyn y gall yn ddiogel dderbyn mynediad i deyrnas yr ysbryd a delio gydag o. Fel y dywed Morton Kelsey yn ei lyfr Encounter with God, ‘All others are either turned away or they find themselves entangled and enmeshed in the darker sides of spirituality, for God does not like false faces.’

Ychydig iawn o bobl sydd â’r dewrder a’r gwrhydri i ganiatáu i’w hunain ddod i ymwybyddiaeth lwyr o beth ydynt, a pha bethau sy’n gudd o’u mewn, a phan nad yw dynion yn fodlon gwneud hynny, mae’n amhosib iddynt gyfarfod Duw.

Dyma’r prif reswm pam na all rhai pobl, sy’n gwbl analluog i fod yn onest gyda nhw eu hunain, adfer o ddibyniaethau ar alcohol a chyffuriau eraill. Rhaid iddynt, yn gyntaf, ddinoethi eu hunain yn llwyr. Dim ond wedyn mae’r broses o drawsnewid eu bywydau yn gallu dechrau.

No comments:

Post a Comment