Wednesday 24 October 2012

Jimmy Savile

JIMMY SAVILE Dychmygwch hyn: y diwrnod y datgelwyd y sgandal am y cannoedd o droseddau a gyflawnwyd gan Jimmy Savile yn erbyn plant ac na chafwyd eu herlyn na’u cosbi, bod papur newydd yn cyhoeddi’r pennawd canlynol: "Unigryw! Dyn yr oedd pawb yn amau’n gryf ei fod yn baedoffeil, er mawr syndod, yn baedoffeil." Er mawr sarhad i Stryd y Fflyd, ni chyhoeddwyd unrhyw bennawd o’r fath, ond gallai fod yn un o’r datganiadau mwyaf diffuant a allai fod wedi ymddangos yn y sgandal mwyaf gofidus hwn. Mae cymaint sy’n drallodus am yr achos hwn fel ei bod yn anodd gwybod lle i ddechrau, ond gallai archwiliad sydyn o’r ffeithiau helpu i ganolbwyntio’r meddyliau. Adeg ei farwolaeth, anfarwolwyd Syr Jimmy gan y wasg, roedd yr union y math o berson ecsentrig, hawddgar y mae’r cyfryngau tabloid Prydeinig wrth eu bodd yn eu dathlu, ei waith dros elusennau a’i ymgyrchoedd llai hysbys, ac erbyn hyn eironig tywyll ar ran gwedduster cyhoeddus yn yr 1970au a’r 1980au gyda Mary Whitehouse yn creu person o onestrwydd syml. Ac eto …. ac eto ni thwyllwyd neb go iawn, neu do fe? Cyflwynodd Jimmy Savile bôs anodd i gymdeithas, ydyn ni’n aflonyddu ar unrhyw ddyn mewn oed, sengl sydd ag awydd bod yn garedig i blant a gwireddu eu gobeithion? Ydyn ni’n bwrw sen am ddyn sy’n ymweld â phlant sâl mewn ysbyty, sy’n ymwelydd aml â hosbisau a chartrefi gofal, i bob golwg er mwyn gwedduster dynol? Os gwnawn hyn, ydy hyn yn cymryd cam arall i lawr y ffordd i’r math o hysteria sy’n gweld pob dyn mewn oed fel rhywun amheus? Mae dull syml ac effeithlon o sgwario’r cylch hwn ac mae’n strategaeth fyddai’n chwyldroi bron pob maes o amddiffyn plant, o gyflwynwyr amheus Top of the Pops i yfed dan oed. Y strategaeth hon yw didwylledd a gonestrwydd llawn a chyflawn ar draws ein cymdeithas am y pethau sy’n creu mwyaf o gywilydd i ni. Mae’n amlwg bod troseddau Jimmy Savile yn hysbys i nifer mawr o bobl. Roedd y rhai oedd yn cadw ei weithredoedd yn gudd, y rhai oedd yn anwybyddu ei ddioddefwyr, y rhai oedd yn cael eu cyfaddawdu gan y sosiopath ystrywgar, roedd digon o wybodaeth go iawn i’w restio a’i garcharu degawdau’n ôl. Ni weithredwyd ar hyn oherwydd bod cam-drin plant yn rhywiol yr adeg honno, ac i ryw raddau yn dal i fod, yr eliffant mawr pinc yn yr ystafell na allwn ddioddef ei gydnabod. Yr unig bryd y byddwn yn ei drafod yw ar adegau o argyfwng aciwt. Yn Stafell Fyw Caerdydd, gwyddom bopeth am yr eliffantod pinc hyn - alcohol, cyffuriau, gamblo neu ddibyniaethau eraill. Mae’n ymddangos bod paralel aciwt rhwng y modd yr ydyn ni’n delio â’r peth dychrynllyd o gam-drin plant a’r modd rydyn ni’n trafod dibyniaeth mewn cymdeithas, mae ein synnwyr cywilydd yn cau allan unrhyw drafodaeth. Mae’r amser wedi dod i bob un ohonom, dioddefwyr, câr, gwylwyr, hwyluswyr damweiniol a hyd yn oed cyflawnwyr sydd am geisio atal gwneud, i fod yn onest a siarad. Roedd Jimmy Savile yn gweithredu’n rhydd nid oherwydd, fel mae rhai wedi’i awgrymu, ei fod yn bwerus ac yn ddylanwadol ond oherwydd ein bod mor ofnus, nid ohono ef, ond o gydnabod bodolaeth camdriniaeth yn ein cymdeithas. Rydyn ni’n dal i fod yn rhy ofnus o gydnabod yn agored yr hyn mae pawb yn wybod yn breifat, fel gyda cham-drin, bod dibyniaeth yn rhemp ym mhobman o’n cwmpas, mewn siop drwyddedu, casinos, tafarndai, mewn aleau cefn, archfarchnadoedd ac ar-lein. Bydd y ddau ddrygioni hyn yn bresennol bob dydd, pa mor galed bynnag y byddwn yn ceisio eu hanwybyddu, ond ni allan nhw ffynnu o dan sbotolau gwirionedd. Bydd cymdeithas sy’n cofleidio euogrwydd, cywilydd a chyfrinachau’n parhau i gynhyrchu plant sy’n cael eu camdrin ac oedolion dibynnol, ond bydd un sy’n ymladd i’r pen dros wirionedd a gonestrwydd yn llawer iachach oherwydd ei hymdrechion.

No comments:

Post a Comment