Wednesday 24 July 2013

Arf stryd fawr o ddistryw mawr

Mae mwyafrif y gweithwyr proffesiynol iechyd wedi deall ers amser y ffaith bod y wlad wedi bod yng ngafael epidemig o alcoholiaeth. Mae bron pob mynegai sy’n ymwneud ag yfed yn dangos cynnydd mawr mewn yfed a chynnydd cyfatebol mewn salwch, trais a marwolaeth yn ymwneud ag alcohol. Mae’r miliwn o ymosodiadau yn y DU bob blwyddyn a’r ffaith bod alcohol yn ffactor yn y mwyafrif o’r achosion a gofnodwyd o gam-drin plant yn ystadegau mor fawr fel ei bod yn ei gwneud hi’n anodd i’r meddwl amgyffred graddfa’r drychineb a achosir gan agwedd cyffyrddiad ysgafn Prydain at y cyffur hwn. Mae’n bosibl, fodd bynnag, y bydd achos llys yr wythnos hon yn helpu i ganolbwyntio meddyliau gan ei fod yn ymwneud â throsedd o drais dychrynllyd a disynnwyr ond yn un lle na chafodd perthynas alcohol ar unrhyw adeg ei gwestiynu, ei herio na’i gondemnio. Ddoe, dechreuodd Carl Mills ar ddedfryd o garchar am oes gyda lleiafswm o 30 mlynedd am lofruddio ar ôl cynnau tân mewn tŷ’n fwriadol, gan ladd ei gyn gariad Kayleigh Buckley, eu merch Kimberley a’i mam Kim. Roedd cofnodion clir am ei berthynas gydag alcohol, roedd gwasanaethau cymdeithasol Torfaen yn bryderus am ei arfer o yfed yn drwm ond ni ddywedwyd llawer mwy na hynny. Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Erlyn y Goron: "Roedd Carl Mills yn gyfrifol am ddechrau tân dychrynllyd oedd â chanlyniadau trallodus a thrasig. Gwnaeth hynny gan wybod yn iawn pwy oedd yn y tŷ ar y pryd - ac mae tystiolaeth o’i natur genfigennus a chynllwyngar yn gwneud ei fwriadau’n llawer rhy glir. " Roedd y ffaith ei fod yn gwbl gyfrifol am y drosedd ac yn ddyn creulon a sadistaidd yn ddiamheuol ond roedd y cyd-droseddwr tawel arall, y diwydiant alcohol yn dianc i bob pwrpas yn ddisylw. Ni chwestiynwyd rhan yr alcohol yn y drosedd yn y llys nac yn unrhyw faes arall o drafodaeth gyhoeddus; ni ddywedodd y cyfryngau na’r llywodraeth unrhyw beth am rôl alcohol yn y drosedd er bod adroddiadau’r gwasanaethau cymdeithasol wedi awgrymu’n gryf bod hwn yn ffactor pwysig yn natur dreisgar Mills. Mae cymdeithas Brydeinig yn gweithredu mewn sawl ffordd fel teulu sy’n cael ei yrru gan gamweithredu o ganlyniad i ddibyniaeth, yn y ddau achos mae pawb yn gwybod y gwir, ond mae’r rheolau nad sy’n cael eu llefaru ond sy’n drwch yn ein cymdeithas, yn ein hatal ni i gyd rhag siarad amdano. Os byddwn yn ymchwilio i rai ystadegau ac yn canolbwyntio ar rai gwirioneddau anghyfforddus, fodd bynnag, mae’n bosibl y gallwn dorri ar y tawelwch gwenwynig hwn. Yn fyd-eang, mae alcohol yn arf o ddistryw mawr. Sut gallwn ni ddweud hyn gydag argyhoeddiad? Mae ffrwydron tir, sy’n costio unrhyw beth rhwng $3 a $10 i’w prynu ac yn awr tua 120 miliwn mewn nifer, yn lladd tua 800 o bobl y mis dros y byd i gyd, y mwyafrif yn blant a bron bob un o’r rhain yn dlawd. Mae alcohol yn lladd ychydig llai na 210,000 dros y byd i gyd bob mis yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd, rhyw 2.5 miliwn o bobl y flwyddyn (pan fyddwn ni'r flwyddyn nesaf yn cyfrif y miliynau a laddwyd o 1914-1918, mae’n bosibl y bydd yn ddiddorol ail ymweld â’r ystadegyn hwn a’i roi yn ei gyd-destun, lladdfa wahanol i’n hamser ni ond nid yn llai angheuol). Ffordd arall o feddwl am hyn yw: bydd alcohol yn lladd, yn ystod y deuddeg mis nesaf, tua 25 gwaith cynifer o bobl ag y mae’r gwrthdaro yn Syria wedi’i wneud. Bydd yn lladd, yn ystod y degawd nesaf, tua chynifer o Rwsiaid ag a gollwyd yn yr Ail Ryfel Byd ac yn y flwyddyn nesaf, chwe gwaith cynifer o bobl â’r newyn yn Ethiopia ym 1984. Rydyn ni’n gwaredu at yr holl unbeniaid, y newyn sy’n ein syfrdanu pan fyddwn yn gwylio Newyddion 6, pob tswnami a daeargryn a rhyfeloedd cartref sy’n tynnu gwaed yr holl ddynolryw, mae pob un o’r rhain yn cael amser caled yn cystadlu gydag alcohol fel arf o ddistryw. Drwy drugaredd, nid oes gan Brydain un o’r trychinebau uchod i ymgodymu â nhw ond mae ganddi un o’r problemau alcohol mwyaf dwys yn y byd datblygedig. Gan gofio hyn, mae penderfyniad y Prif Weinidog David Cameron yr wythnos hon, yr union wythnos yr euogfarnwyd Mills, i dynnu’n ôl o ddeddfwriaeth lleiafswm prisiau yn un o ymadawiadau mwyaf pobl Prydain er budd elw preifat mewn hanes gwleidyddol modern. Mae gwaith ymchwil a adolygwyd gan gyfoedion ac ar sail tystiolaeth wedi dangos yn glir mewn nifer o achosion bod lefel anaf, salwch a marwolaethau cynamserol wedi gostwng gyda chynnydd bychan iawn mewn lleiafswm prisio, gan ddangos bod yfwyr bregus, tlawd sy’n barod yn yfed gormod, yn methu ag yfed lefel y diodydd yr oedden nhw’n gallu ei wneud ynghynt. Mae’r amrywiol ffug-rhyddewyllyswyr sydd wedi ymddangos dros y broblem hon yn pwysleisio’n barhaus nad oes gan y llywodraeth hawl i ddwyn oddi wrth y gweithiwr yr ychydig bleser sydd ganddo mewn bywyd h.y. diod rad ac na ddylai yfwyr synhwyrol da gael eu cosbi oherwydd llond llaw o afalau drwg. Yn gyntaf, fel sylwedd dibynnol sy’n niweidio’n ofnadwy ffabrig cymdeithasol y genedl, sy’n gysylltiedig â miliwn o ymosodiadau yn y DU bob blwyddyn ac yn costio rhyw £12 biliwn y flwyddyn i’r trethdalwr, dylai alcohol yn bendant fod yn bwnc prisio llym, mae pob mesur arall i gyfyngu ar ei yfed wedi methu, gan gynnwys ceisiadau chwerthinllyd i gynnwys y diwydiant mewn ‘hunan-reoli’. Yn ail, os na fydd gan yfwyr sy’n teimlo eu bod yn cael eu herlyn gan fygythiad peint o gwrw neu lasiad o win ychydig yn fwy costus, broblemau gydag alcohol, beth yw’r broblem go iawn? Pris bychan yw ychydig geiniogau ar bris diod i dalu am ostwng y nifer o farwolaethau a achosir gan yfed. Mae’r gwrthwynebiadau, yn ddiamheuol, yn dod yn bennaf o’r diwydiant alcohol ei hun a gan lobïwyr anweledig sy’n gallu mynd at y Prif Weinidog a gweddill y dosbarth gwleidyddol (tro pedol yr wythnos hon ar becynnu plaen i sigarennau ac mae presenoldeb cyfleus y lobïwr tybaco Lynton Crosby yng nghylch cyfrin y Prif Weinidog yn rhoi cliw i ni ar sut mae gweddill polisi ‘iechyd’ y llywodraeth yn gweithio). Efallai ei bod yn ormod i obeithio bod ein llywodraeth, sy’n drwm yng nghôl diwydiannau preifat, yn mynd i gymryd safiad dewr amhoblogaidd ac angenrheidiol ar alcohol a dangos arweinyddiaeth go iawn. Mae’n bosibl bod gêm gwleidyddiaeth fodern wedi bod unwaith yn ymwneud â phenderfyniadau angenrheidiol, llym (mae Cameron ac Osborne yn ymddangos yn fedrus ar wneud hyn pan mae’n dod i dorri gwariant y wladwriaeth) ond nawr mae’n llawer mwy o ymdrechu am boblogrwydd ar draul polisi. Bob tro y mae damwain car, achos o drywanu, mygio neu dreisio, neu bob tro mae teulu o dri’n cael eu llofruddio yn eu gwelyau gan ddyn ifanc sy’n dioddef gan salwch alcoholiaeth a digon o alcohol rhad i’w fwydo, meddyliwch am y Prif Weinidog. Meddyliwch amdano ac am ddosbarth gwleidyddol hollol arwynebol, ffraeth ac anargyhoeddiadol, yn eiddo busnesau mawr lle mae eu hunig ddiddordeb yw preifateiddio elw eu harfau distryw mawr a chymdeithasoli costau i’r gweddill ohonom.

No comments:

Post a Comment