Tuesday 2 September 2014

Plant Neb

Plant Neb A yw rhai plant yn haws eu caru nag eraill? A yw dioddefaint rhai plant yn llai derbyniol nag eraill? Os ydyn ni’n gofidio llai am rai plant nag eraill a allwn ninnau fel cymdeithas honni ein bod yn caru plant o gwbl? Dyma rai o’r cwestiynau fydd yn pigo cydwybod y genedl am genhedlaeth yn dilyn y datgeliadau ofnadwy o Rotherham yr wythnos hon. Efallai, ar ôl achosion Savile, ein bod oll mor ddideimlad am y dioddefaint y mae oedolion fel petaent yn ei achosi i blant yn rheolaidd ym Mhrydain nes na allwn bellach brosesu’r erchyllterau sy’n digwydd bob dydd. Ond, mae’n rhaid i ni eu prosesu oherwydd, yn debyg i Savile, roedd y troseddu’n gyfrinach agored, yn digwydd o flaen llygaid yr heddlu a’r awdurdod lleol a’r unig ffactorau a rwystrodd y dioddefwyr rhag cael eu hachub oddi wrth y drwgweithredwyr oedd cefndir y dioddefwyr. Yn Rotherham ac ar draws y sir, rydym yn sicr yn gofalu am rai plant yn fwy nag eraill. Y lluniau angylaidd o blant agored i niwed sy’n syllu allan arnom o gloriau papurau newydd tabloid, wedi eu hanfarwoli yn dilyn achos arswydus arall o gam-drin plant, Daniel Pelka, Baby P, Victoria Climbie, James Bulger - dyma’r lluniau sy’n ein poeni. Beth sy’n wahanol am y 1,400 o ddioddefwyr yn Rotherham, pam na achosodd eu dioddefaint a’u poen nhw ymatebion tebyg? Roedd llawer o’r merched a’r bechgyn perthnasol yn blant agored i niwed, yn dod o deuluoedd di-drefn neu ddiffygiol ac roeddent wedi eu creithio’n emosiynol, eu hesgeuluso ac wedi dioddef ymosodiadau yn hir cyn i’w hymosodwyr gael eu dal. Roedd y rhain yn blant oedd yn dyheu am i rywun eu caru a gofalu amdanynt, dangos trugaredd iddynt a phrofi iddynt eu bod yn bwysig a gwerthfawr. Mae’n sicr bod llawer ohonynt yn dangos pob math o agweddau ac ymddygiadau heriol, fel y mae plant a phobl ifanc yn eu harddegau’n ei wneud wrth iddynt ddelio â’r boen sydd yn eu bywydau. Mae’r ffaith yma, a’r ffaith bod eu camdrinwyr yn eu twyllo’n hawdd i gredu y gallent gael eu caru, eu gwerthfawrogi a’u hanwylo, fel petai wedi eu condemnio ym meddwl yr heddlu a’r gweithwyr cyngor oedd i fod i’w hamddiffyn nhw. Does gan oedolion ddim yr hawl i ddewis pa blant sy’n ‘ddigon da’ i gael eu caru a pha rai sydd ddim. Ymhellach, onid y plant sy’n anodd eu cyrraedd, y rhai sy’n byw bywydau di-drefn ac sy’n llawn poen, dicter a chwerwedd yn barod ddylai gael y flaenoriaeth yn ein cymdeithas? Pa athro sy’n haeddu cael ei alw’n athro os yw’n disgwyl llond dosbarth o fyfyrwyr gradd A ac yn anwybyddu’r rheiny sy’n cael trafferthion? Pa feddyg sy’n trin y cleifion gyda salwch y gellir ei wella’n gyflym gyda phresgripsiwn ac yn anwybyddu’r gweddill? A beth am y drwgweithredwyr? Beth wnawn ni gyda’r dynion unigryw o beryglus yma? Mae’r wythnos hon wedi bod yn gyfle i’r newyddiadurwyr sydd o blaid ‘crogi a chwipio’ (nad oedd ots ganddynt am y dioddefwr wythnos yn ôl mae’n rhaid dweud) apelio at ein cyneddfau mwyaf sylfaenol a’n dicter. Mae’n bosib iawn bod chwalu bywyd plentyn yn anfaddeuol neu o leiaf y tu hwnt i faddeuant y mwyafrif ohonom, ond bydd codi mewn ton o ddicter yn gwneud dim i helpu eu dioddefwyr a bydd yn ein dallu i’r ffaith nad yw’r dynion a gam-driniodd, a arswydodd ac a dreisiodd cymaint o blant, yn ddim llai dynol na ni, mor ofnadwy bynnag oedd eu troseddau. Y ffaith olaf yma mae’n debyg yw’r ffaith fwyaf anghyfforddus, arswydus a thrallodus ohonyn nhw i gyd, a dyma pam rydym yn ceisio troi’r drwgweithredwyr yn bethau ‘eraill’, a’u disgrifio fel ‘bwystfilod’. Wel, yn drist iawn, mae’r bwystfilod yma’n arswydus o arferol a bydol ac, os na fyddwn yn ceisio ymgysylltu â nhw fel bodau dynol ar ryw lefel, fyddwn ni’n dysgu dim o’r stori ofnadwy yma. Wrth gwrs, dylent gael eu cosbi gan y gyfraith a’u cadw ymhell oddi wrth blant am flynyddoedd lawer, ond os ydym fel cymdeithas bob amser yn taflu ein dwylo i’r awyr ac yn wylofain am y dioddefwyr, ac yna’n difenwi a chasáu’r troseddwyr, rydym yn ein heithrio ein hunain yn daclus oddi wrth unrhyw werthuso trwyadl. Rydym oll yn cyfrannu at gymdeithas mewn ffyrdd pitw bychan sy’n creu’r sefyllfaoedd yma o bryd i’w gilydd felly mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb, atebolrwydd ac euogrwydd ar y cyd am dynged cymaint o ferched a bechgyn ifanc yn Rotherham. Rydym oll yn cyfranogi mewn cymdeithas sydd, mewn gwirionedd, eisiau sgubo gwireddau anghyfforddus o dan y carped a, thrwy wneud hynny, rydym yn helpu i barhau’r gamdriniaeth ac yn methu gwneud y peth iawn dros ei dioddefwyr.

No comments:

Post a Comment