Friday 4 September 2015

Peidiwch ag ildio

PEIDIWCH BYTH AG ILDIO “Ni fyddwn ni’n cilio na’n methu, byddwn ni’n parhau hyd y diwedd … ni fyddwn byth yn ildio.” Efallai’r geiriau mwyaf cynhyrfus a fynegwyd erioed gan alcoholig. Roedd Winston Spencer Leonard Churchill, yn ei eiriau ei hun, wedi’i eni i fawredd ond roedd ganddo bob nodwedd angenrheidiol i fod yn adict. Rhieni oedd yn ei gam-drin yn emosiynol, cael ei anfon i ffwrdd i ysgol breswyl yn ifanc iawn a phroblemau deallusrwydd aruthrol wedi’i gyfyngu gan athrawon beirniadol a meistri tai. Tyfodd i fod yn oedolyn oedd yn cael ei blagio gan hunan-amheuaeth ofnadwy a rhithdybiau mawredd; mae haneswyr yn edrych arno fel ffigwr dadleuol, arwr i rai a dihiryn i eraill, ond gall alcoholigion ac adictiaid ddysgu llawer iawn o’i eiriau. Mewn nifer o ffyrdd, mae’r Stafell Fyw (sy’n bodoli’n rhannol oherwydd y Churchill Fellowship), yn crynhoi ei rethreg. Dywedir yn aml yn ystafelloedd Alcoholigion Anhysbys a sefydliadau adfer eraill, bod yn rhaid i ‘un ildio er mwyn ennill’. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid rhoi’r gorau i’r syniad y gellir rheoli’r ddibyniaeth a dychwelyd at yfed ‘synhwyrol’ rheoledig a mesuredig. Mae hon yn farn sy’n cael ei chefnogi gan y Stafell Fyw. Ond mae ysbryd brwydro pwerus hefyd yma. Mae hwn yn derbyn bod ein diffyg pŵer yn rhan hanfodol o adfer, ond nad yw rhoi mewn i ddibyniaeth actif, ei dderbyn fel rhywbeth anochel, yn rhan hanfodol o adfer. Ym mis Mehefin 1940 ychydig wythnosau ar ôl i Churchill ddod i rym a’r Fyddin Brydeinig wedi’i hachub o Dunkirk, roedd cenedl bryderus yn edrych ar Churchill am waredigaeth. Roedden nhw’n aros am rywun i gamu ymlaen fel arweinydd a rhoi darlun clir o’r hyn yr oedd Prydain yn mynd i’w wneud. Roedd y rhyfel yn cael ei golli a nifer yn ofni ymosodiad gan yr Almaen yn y misoedd nesaf ac yn credu y byddai’n rhaid i Brydain ildio neu drafod. Dywedodd Churchill wrth y genedl beth oedd y cynllun mewn un araith glir: Rydyn ni’n mynd i ymladd. Eglurodd y byddai’n frwydr hir, byddai’r gost mewn bywydau, arian a dinistr yn uchel, ond byddai, yn ddiamau, yn cael ei hennill - beth bynnag ddigwydd i nifer o adictiaid, sy’n cyflawni yr un patrymau niweidiol dro ar ôl tro, mae eu harweinydd, eu Churchill yn eistedd ar y meinciau, yn anymwybodol ei bod yn amser i gamu i’r darllenfwrdd ac ysbrydoli’r byd. Pan fyddan nhw, o’r diwedd, yn deffro i realaeth eu salwch, y frwydr o’u blaen, mae eu harweinydd yn cyrraedd i’w harwain. Mae’r deffro hwn yn digwydd ar soffas y Stafell Fyw dro ar ôl tro - mae adictiaid yn deffro ac yn lle gweld ofn, anhrefn a gorchfygiad, maen nhw’n derbyn adfer ac yn rhagweld buddugoliaeth dros y gelyn mwyaf annymunol a welsant erioed. Mae cwnselwyr a staff y Stafell Fyw’n gwybod mai staff cefnogi ydyn nhw yn y ddrama fawr hon, i helpu’r adict i ddarganfod ei hun, ei nerth a’i benderfyniad/phenderfyniad. Gwyddom rywbeth arall hefyd: Rydyn ni’n mynd i ennill. Gall y ffordd fod yn anodd ac nid yw’r frwydr gyda dibyniaeth yn benodol i Gaerdydd, i Gymru nac i Brydain ond mae’n broblem fyd-eang sy’n caethiwo llawer o bobl. Ond mae’r sicrwydd ein bod yn mynd i lwyddo mor bwerus oherwydd: Nid ydym ar ein pen ein hunain. Mae chwyldro adfer tawel, eang yn teithio o gwmpas y byd, o gymunedau bychain i lywodraethau cenedlaethol. Mae hen syniadau o wthio dibyniaeth allan o’r adict yn raddol yn cael eu hamnewid gan ethos o gariad, tosturi, dealltwriaeth a chydsafiad. Yn y gorffennol, bu’n demtasiwn i bobl broffesiynol yn y maes dibyniaeth roi hunain, gyrfaoedd a balchder dros wir egwyddorion helpu eraill. Mae hyn wedi cau pobl broffesiynol oddi wrth ei gilydd ac wedi trin gwirfoddolwyr a phobl leyg fel rhwystrau gyda bwriadau da. Yn y Stafell Fyw rydyn ni wedi tynnu’r waliau a’r ffensys i lawr ac rydym am glywed gan unrhyw un a all helpu yn y frwydr o’n blaen. Os ydych chi’n barod i helpu gyda dibyniaeth ac yn benderfynol o beidio â gweld eraill yn ildio i’w bŵer, byddem yn eich croesawu i ymuno â ni. Mae dibyniaeth yn ffynnu pan fyddwn ar ein pen ein hunain neu’n unig. Mae’n bwerus iawn pan na fyddwn ni’n gallu galw ar benderfyniad Churchill neu ein bod yn methu â galw ar yr arweinydd o’n mewn ni oll sy’n aros i arwain. Ar hyn o bryd, mae gan y Stafell Fyw amrywiaeth o fentrau cyffrous ochr yn ochr â’n gwasanaethau craidd i helpu i frwydro yn erbyn dibyniaeth: * Y Prosiect Estyn Allan: Mae’n rhoi sgiliau hyfforddi adfer i bobl leyg yn eu cymunedau i wneud effaith go iawn ar fywydau adictiaid. * Beat The Odds: rhaglen gyntaf Cymru i frwydro yn erbyn argyfwng dibyniaeth gamblo. * Cynnal: Gwasanaeth dwyieithog i weinidogion yr efengyl ar draws Cymru sy’n dod ar draws problemau dibyniaeth a theimladau na ellir eu rheoli. Os hoffech ymuno â ni, pa un a ydych yn weithiwr proffesiynol, yn berson mewn adferiad neu’n wirfoddolwr a all gynnig egni, brwdfrydedd ac ymrwymiad, gallwch gysylltu â’r Stafell Fyw ar: Ffôn: 029 2030 2101 E-bost: livingroom-cardiff@cais.org.uk

No comments:

Post a Comment